CAMU mewn ffydd

mae’r arglwydd wedi arwain ein eglwys i gamu mewn ffydd, drwy werthu ein adeilad presenol a chwilio am adeilad sydd yn aml bwrpas, heb rwystrau ‘cadw’, ac yn galluogi i ni barhau i ymdrechu i gyrraedd ein cymuned gyda’r efengyl.

Sut allwch chi gefnogi?

ein cais pennaf yw am weddi!

1. gweddiwch y bydd yr arglwydd yn arwain yn glir, yn llywio y cyfan yn ol ei ewyllys ef, ac y byddwn ni fel eglwys yn gwbl ufudd iddo. 

2. gweddiwch dros y ‘symud’ yn y dyfodol, y bydd yr arglwydd yn mynd o’n blaen ac yn bendithio. 

Os yw’r arglwydd yn eich arwain, rydym yn codi arian er mwyn gallu prynu ac atgyweirio adeilad arall. yn anffodus, mae penuel wedi ei gofrestru gyda ‘cadw’, sy’n golygu fod ei werth yn gymharol isel, felly byddem yn gwerthfawrogi unrhyw gefnogaeth.