Rydym yn cwrdd i drafod llyfrau gwahanol yn y Beibl bob prynhawn Mawrth am 1.00yh. Rydym ni’n darparu i’r rhai sy’n siarad Cymraeg a Saesneg. Bwriad yr astudiaeth yw dod i ddeall y Beibl yn ddyfnach, ond yn bwysicach na hynny, tyfu yn ein perthynas a’r Arglwydd, a dod yn debycach iddo. Mae sawl aelod o eglwysi eraill yn ymuno â ni, ac mae croeso i unrhyw un o unrhyw eglwys ddod i drafod – ein bwriad yw adeiladu’r saint.