Mae’r cwrdd gweddi yn allweddol i ni ym Mhenuel. Drwy weddi, rydym yn pwyso a dibynnu’n llwyr ar Dduw. Felly ar nos Fercher am 6.00yh rydym yn cyfarfod i weddïo. Gwnawn ymdrech i weddïo dros deulu a ffrindiau sydd mewn angen, yn dioddef, neu’n gleifion. Byddwn yn gweddïo dros waith yr Efengyl ar draws Gymru a’r byd. Os oes gennych gais am weddi, cysylltwch â’r gweinidog os gwelwch yn dda. Mae croeso cynnes i bawb.