Gofal Bugeiliol
Mae’r Arglwydd Iesu’n cael ei alw’n Fugail Mawr yn y Beibl, ac mae siars yn 1 Pedr 5 i’r eglwys fugeilio praidd Duw. Credwn ei bod hi’n fraint a chyfrifoldeb i ofalu am ein gilydd fel aelodau o Gorff Iesu Grist.
Rydym yn hapus ac awyddus i ymweld â phobl ac i weddïo gyda chi, a’ch cynorthwyo yn ôl yr angen. Efallai eich bod chi, neu rhywun yr ydych yn ei adnabod yn mynd drwy gyfnod caled ar hyn o bryd. Rydym yma i geisio eich cefnogi, a’ch cyfeirio at y Pen-bugail.