Grŵp Tŷ
Fel mae Cristnogion wedi bod yn gwneud ers amser Iesu Grist, rydyn ni’n mwynhau cwrdd gyda’n gilydd o gwmpas y lle tân yn ein tai ein gilydd! Rydym yn cwrdd i drafod Gair Duw, gweddïo, a chael cymdeithas glos gyda’n gilydd. Bydd paned a danteithion ar gael, a chyfle i rannu a dod i adnabod aelodau eraill o’r eglwys yn well. Mae croeso i bawb ymuno â ni.