Suliau
Mae dwy oedfa bob Sul: 10.30yb yn Gymraeg a 5.00yh yn Saesneg. Mae’r oedfaon ychydig yn wahanol ond yn bwriadu dod â chlod i’r Arglwydd Iesu drwy ddysgu’r Beibl a thrwy dyfu gyda’n gilydd fel disgyblion mewn cymuned Grist-ganolog a chariadus.
Mae croeso i bawb! Byddwn wrth ein boddau petasech chi’n ymuno â ni.
10.30yb
Mae’r oedfa Gymraeg i bawb o bob oedran, gyda chyfieithu ar y pryd i Saesneg. Yn ystod yr oedfa mae ardal crèche ar gael i’r babanod. Rydym yn mwynhau paned a chyfle i ddod i adnabod ein gilydd ar ddiwedd yr oedfa.
5.00yh
Mae oedfa’r hwyr am 5.00yh. Rydym ni’n mwynhau cymdeithas gyda’n gilydd wrth inni fynd yn ddyfnach i Air Duw.