TLC (Talk, Lunch, Chat)

Mae’r TLC yn sefyll am ‘talk, lunch and chat’. Mae’r cyfarfod am 12:30, ar ddydd Gwener olaf bob Mis. Rydym yn dod at ein gilydd ac yn gwahodd unrhyw un i ymuno â ni am bryd o fwyd cynnes, a digon o gacennau. Mae cyfle i glywed y newyddion da am Iesu Grist, a bydd sgwrs dros baned i orffen. Mae’n gyfarfod anffurfiol, wrth inni eistedd o gwmpas byrddau. Mae’r siaradwr yn siarad yn Saesneg, ond mae digon o Gymraeg ar y byrddau am sgwrs i ddilyn.