Mae’r Ysgol Sul yn dechrau am 9:30 cyn yr oedfa, gyda sesiwn ar wahan i’r plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd. Yng nghefn yr ystafell mae Creche ble mae croeso i riant aros gyda phlant bychain yn ystod yr oedfa a dal bod yn rhan o’r oedfa.
Bydd cyfle i’r plant ddysgu am Dduw a’r Beibl, chwarae gemau, canu caneuon a gwneud crefftau. Mae croeso i bob plentyn ymuno yn yr ysgol Sul.