Pam Cristnogaeth?
Pam mae Penuel yn bodoli? Rydym nyn gwneud y cyfan mewn ymateb i’r newyddion gwych am Iesu Grist. Dyma mae’r Eglwys yn ei greduY Beibl
Cafodd y Beibl ei ysgrifennu gan nifer o bobl mewn ieithoedd gwahanol, dros amser hir. Ynddo ceir hanes am Dduw’n ymwneud â’r byd, yn ymwneud â ni!
Duw
Mae Duw yn cynnal ei greadigaeth ac yn cyfathrebu â’r byd. Credwn fod Duw wedi datguddio ei hun yn ei greadigaeth, yn y Beibl, ac yn bennaf oll yn ei Fab, Iesu Grist.
Pobl
Mae Duw yn ein caru ni i gyd. Rydym wedi cael ein creu ar lun a delw Duw. Ond mae rhywbeth wedi digwydd i fyd perffaith Duw. Daeth pechod i’r byd trwy anufudd-dod. Ein problem pennaf ni yw pechod am ei fod yn ein gwahanu ni oddi wrth Dduw.
Iesu Grist