Pwy ydym ni?

Aelodau

Mae’r eglwys yn grŵp cymysg o bobl o bob math o gefndiroedd gyda doniau a chyfrifoldebau gwahanol sy’n caru’r Arglwydd Iesu ac yn dod ynghyd i greu ein heglwys leol. Yr Iesu yw conglfaen yr Eglwys ac felly ef yw’r Pen, a’r Beibl yn awdurdod i bopeth mae’r eglwys yn ei wneud.

Diaconiaid

Er bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan yr aelodau, mae tîm o ddiaconiaid yn hyrwyddo gwaith yr eglwys o dan arweiniad y gweinidog

Gweinidog:

Aron Treharne

Mae Aron wedi bod yn weinidog ar eglwys Penuel ers 2011. Magwyd ef ym Mhenygroes, ac wedi gadael yr ysgol, bu Aron yn gweithio yng Ngholeg y Bala fel Gweithiwr Plant ac Ieuenctid, cyn symud i Lansannan i ddilyn cwrs hyfforddiant i’r weinidogaeth gyda DAWN (Datblygu Arweinwyr i Weinidogaethau Newydd). Daeth i Gapel Penuel am gyfnod byr cyn y Pasg yn 2009, a dychwelyd am ddwy flynedd fel Gweinidog dan hyfforddiant. Mae’n parhau fel Gweinidog heddiw. Mae’n briod ag Elain ac mae ganddynt 3 o blant; Hanna, Joseff a Mabli